|
Yw fy mhlentyn yn camddefnyddio cyffuriau?
Corfforoll:
Ydi e bob amser i’w weld yn flinedig neu’n cwyno am fod yn flinedig? Ydi e’n gyffredinol wan ei iechyd? Yw ei lygaid yn ymddangos yn goch a difywyd? Oes ganddo beswch parhaus?
Emosiynol:
Ydi e’n diodde’ o newid sydyn mewn hwyliau? Yw ei ymddygiad yn afresymegol ac anghyfrifol? Oes ganddo feddwl isel o’i hun? Ydi e’n isel eiysbryd ? Ydi e’n ymddangos heb ddiddordeb mewn dim ac yn unig?
Teulu: Ydi e’n achosi anghytgord o fewn yr uned deuluol? Ydi e’n anufuddhau i reolau’r teulu? Ydech chi’n cael y teimlad ei fod wedi datgysylltu ac ar wahan i weddill y teulu?
Ysgol:
Ydi safon ei waith yn yr ysgol wedi dirywio’n ddiweddar? Ydi e’n chware triwant o’r ysgol? Oes ‘na faterion disbyglu rhyngddo a’I athrawon?
Problemau cymdeithasol:
Yw ei ffrindiau newydd yn dangos diffyg parch cyffredinol tuag at gartref normal a gweithgaredd ysgol ? Ydi e wedi cael trafferth gyda’r heddlu? Yw ei chwaeth mewn dillad a cherddoriaeth yn sydyn yn anghonfensiynol?
Gall y rhybuddion hyn, fodd bynang, hefyd fod yn arwyddion o broblemau eraill.
Os ydych yn poeni bod eich plentyn yn camddefnyddio cyffuriau (neu alcohol, neu unrhyw sylwedd neu ymddygiad), pam na chewch chi’r doctor i’w archwilio er mwyn cadarnhau nad rhesymau corfforol sydd wrth wraidd y peth. Byddai ‘n gwneud synnwyr hefyd i ddilyn hyn gydag ymweliad â’r seiciatrydd plant a rhai’n eu harddegau.
Cofiwch , fel rhiant neu warchodwr, mai’r ffordd mwya’ effeithiol o ddangos gofal a chonsyrn am eich plentyn yw ei gael i gymryd rhan mewn sgwrs agored a gonest am y defnydd neu’r camddefnydd o alcohol a chyffuriau eraill.
(Rydym wedi cyfieirio at eich plentyn yn y ffurf gwrywaidd er mwyn hwylustod a dim rheswm arall.)
|