|
Lleihau niwed a Llwyr ymwrthod
Beth yw ein safbwynt am Leihau Niwed a Llwyr-Ymwrthod fel amcanion triniaeth ar gyfer pobol dibynnol ar alcohol/cyffuriau?
Mae lleihau niwed, pan yn cael ei ystyried fel diwedd ynddo’i hun, yn achosi anghydfod athronyddol ac ymarferol. Pan yn cael ei ystyried fel rhan o’r broses o gyrraedd at yr amcan (yn y pendraw) o Lwyr Ymwrthod, mae’r ddau yn gydnaws â’i gilydd (Waller and Rumball, 2004.)
Yn y Cyngor, rydym yn credu efallai i chi ei brynu (dibyniaeth ar alcohol a/neu gyffur), efallai i chi ei ddal, efallai hyd yn oed i chi gael ei eich geni gyda’r cyflwr – y peth pwysig yw – beth ydych chi’n mynd i’w wneud am y peth?
BRWYDRO AR FFRYNTIAU FFUG
Mae rhai sy’n hybu’r ‘dicotomi ffug’ rhwng triniaeth Lleihau Niwed a Llwyr Ymwrthod yn dal i frwydro, byddai llawer yn dadlau, brwydrau’r 1970au rhwng ‘barn wedi ei seilio ar wyddoniaeth a barn wedi ei seilio ar gred ynghylch problemau alcohol’ (Sobell & Sobell, 1995). Rydym ni yn y Cyngor o’r farn bod gwreiddyn y ddadl hon nid yn unig yn gorwedd rhwng rhinweddau neu ddim y Lleihau Niwed a Llwyr Ymwrthod, ond rhwng hawl pob rhaglen driniaeth i gyd-fodoli mewn maes mwyfwy cystadleuol, sy’n dal i dyfu ; a bod y ddadl yn cael ei chuddio gan ladmeryddion camarweiniol ar y ddwy ochr, yn brwydro brwydrau ar ffryntiau ffug. (Szasz, 1973.)
BETH YW’R ATEB?
Efallai, fel mae AA yn awgrymu, mai ‘derbyn yw’r ateb i’n problemau i gyd’ (AA World Service Inc., 1976.) – derbyn hawl pob canolfan driniaeth i fodoli. Mae’r mater wrth wraidd gwleidyddiaeth Gogledd Iwerddon dros y 100 mlynedd d’wetha’ yn dod i’r meddwl – ac nid ydym yn cellwair wrth gymharu, oherwydd mae gan y ddau fater ganlyniadau sy’n golygu byw neu farw pe na ddatrysir nhw. Daw’r darn yma o bapur newydd y Guardian ar Mawrth 14, 2007. Mae Nicholas Watt et al., (2007) yn disgrifio’r prif chwaraewyr yn y datrysiad i broblemau Gogledd Iwerddon fel hyn :
‘Protestant ffyrnig, Mr Paisley yw sylfaenydd a chymedrolwr yr Eglwys Rydd Bresbyteraidd, sy’ wedi cythruddo Catholigion drwy alw’r Pab yn Wrth-Grist. Mae Mr Blair yn Anglican, yn mynd i’r Offeren gyda’i wraig Gatholig ; mae Gerry Adams a Martin Maguinnes, arweinwyr gwleidyddol Sinn-Féin, yn gyn arweinwyr parafilwrol yr IRA , ill dau yn Gatholigion pybyr’. Fodd bynnag, heddwch yng Ngogledd Iwerddon oedd eu hamcan cyffredin (yn y pendraw). Ac er mwyn cyflawni’r ‘amcan cyffredin’, roedd yn rhaid iddyn nhw roi eu gwahaniaethau o’r neilltu a derbyn ‘rhannu-grym’ fel yr unig ffordd posib’ o gyrraedd yr heddwch yr hiraethwyd amdano gyhyd.
Beth yw’r amcan cyffredin?
Yr ‘amcan cyffredin’ mewn dibyniaeth ar alcohol neu gyffuriau yw gwellhad. Ac er mwyn i hwnnw gael ei gyflawni, rhaid i Leihau Niwed a Llwyr Ymwrthod (a phob ymdrin) fod yn gydnaws, ac, yn bwysicach, gael eu derbyn felly. Gall hyn ‘ gael ei gyflawni dim ond os yw llawer o ddynion, nid dim ond ambell un, yn fodlon ac yn abal i wynebu’n onest, a thaclo’n wrol, eu croesdyniadau ethigol, personol a chymdeithasol – sy’n golygu ‘cael y dewrder a’r gwroldeb i roi’r gorau i frwydro brwydrau ar ffryntiau ffug’ (Szasz, 1973.) Mae gennym ni yng Nghyngor Cymru y gwroldeb a’r gonestrwydd hwnnw…..
LLYFRYDDIAETH:
Alcoholics Anonymous
. 1976. 3RD ed. New York: Alcoholics Anonymous World Services, Inc.
NICHOLAS, W., BOWCOTT, O., WINTOUR, P., 2007. Blair’s Secret Weapon in Paisley talks: religion.
The Guardian.
14 March 2007. p1.
SOBEL, L. C., SOBEL, M. B., 1995. Alcohol consumption measures. In: Allen, J. P., Columbus, M., eds.
Assessing Alcohol Problems: A Guide for Clinicians and Researchers.
Bethesda, MD: National Institute on Alcohol Abuse and Alcoholism.
SZASZ, T. S.,1973.
Ideology and Insanity: essays on the psychiatric dehumanisation of man.
London: Marion Boyars.
WALLER, T., RUMBALL, D., 2004.
Treating Drinkers and Drug Users in the Community
. Kundli: Blackwell Publishing.
|