|
'Stafell Fyw Caerdydd / Living Room Cardiff
Gorolwg ar y ganolfan-ddydd ar gyfer gwellhad.
Bydd y 'Stafell Fyw Caerdydd / Living Room Cardiff* arfaethedig yn ganolfan ddydd ar gyfer gwellhâd, yn cynnig gwasanaeth dwyieithog am ddim yn ymgorffori rhaglenni wedi eu strwythuro i unrhyw un yn profi anawsterau mewn perthynas ag alcohol, cyffuriau (wedi eu rhagnodi neu anghyfreithlon), neu unrhyw ddibyniaeth arall, fel anhwylder bwyta, caethiwed i gariad a rhyw, gamblo a hunan-niweidio.
Bydd 'Stafell Fyw Caerdydd / Living Room Cardiff yn cynnig gwasanaeth darpariaeth Tier 3 i gleientau o Dde Cymru gan fwyaf.
Gwahaniaethau Allweddol yw:
-
Trin y salwch o fod yn gaeth (nid dim ond y cyffur/dibyniaeth o ddewis). Mae’r agwedd yma’n cyfrannu at sefydlu gwellhâd hirdymor, yn rhydd o groes-gaethiwed. .
-
Ffocws ar faterion bywyd y cleient (nid dim ond anghenion yn uniongyrchol gysylltiedig â dibyniaeth). Mae’r newid o hen brosesau meddwl a hen batrymau ymddygiad, y codi hunan-barch a hunan-werth, yn allweddol i broses wellhâd strwythuredig y Ganolfan arfaethedig.
-
Darpariaeth rhaglen wellhâd wedi ei strwythuro am bum niwrnod yr wythnos, ar gael ar unwaith i’r cleient.
-
Darpariaeth Crèche unigryw, fydd yn galluogi rhieni plant ifanc sydd wedi eu hynysu, i gyslltu â’r gwasanaeth hwn. Mae gan ardal Caerdydd a De Morgannwg raddfa uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol o feichiogrwydd ymhlith yr arddegau. Mae camddefnyddio sylweddion yn aml yn ffactor sy’n cyfrannu at y beichiogrwydd heb ei gynllunio. .
-
Darparu gwasaneth i’r grwp 13 - 17
-
Creu a chynnal cynllun-gofal wedi ei deilwra i bob cleient. Bydd y cynllun hwn yn aml yn cael ei adolygu ar y c?d gan y tim a’r cleient.
-
Darparu gwasanaethau ôl-ofal. Bydd cefnogaeth barhaus ar gael i bob cleient wrth iddyn nhw ail-ymuno gyda’u cymuned.
-
Bydd yr holl staff sy’n gweithio gyda chleientiaid wrthi’n gwella ac yn gweithio’r rhaglen 12 cam am o leiaf 5 mlynedd yn eu bywydau eu hunain. Byddan nhw i gyd yn gynghorwyr proffesiynol wedi eu cymhwyso.
-
Bydd gwasanaeth dwyieithog ar gael.
- Ethos ac awyrgylch. Bydd y gwasanaeth arfaethedig wedi ei seilio ar dderbyn ac ymddiried yn llwyr yn yr unigolyn, o ba bynnag gefndir neu angen. Bydd yn croesawu ; ddim yn gwahaniaethu ; yn anfeirniadol ; ac wedi ei seilio ar werthoedd Crisnogol (fodd bynnag rhoddir parch llwyr I grêd unigol staff a chleientiaid, ac ni wthir Cristnogaeth ar gleientiaid) ; unigoliaeth (ynghyd â grwp cymorth The Living Room/Yr Ystafell Fyw fydd yn cynnig cynghori un-i-un a chefnogaeth cynghorwr wedi eu hyfforddi) ; hyblygrwydd (bydd y prosiect yn cynnig gwasanaeth unigryw ar gyfer anghenion unigol i hwyluso ymwneud llawnach gyda bywyd) ; a syniad o berthyn ( mae’r prosiect arfaethedig yn cynnig rhoi cefnogaeth personol a moesol drwy staff wedi eu hyfforddi sy’n arbenigo mewn trin problemau alcohol).
mwy +
|