|
Ynghylch dibyniaeth ar gamblo
Gamblo: Ystyriwch gael help os ydech yn ateb “ydw” i un o’r cwestiynau canlynol…
-
Ydech chi, ar ôl gamblo, yn teimlo’n euog, â chywilydd, yn edifar ac/neu’n ddiobaith ?
-
Ydech chi’n ffeindio’ch hun yn methu stopio gamblo unwaith i chi gychwyn ?
-
Ydech chi’n gamblo’n hirach na’ch bwriad, neu’n cymryd risgs mwy na’ch bwriad ?
-
Ydech chi, ar ôl colli, yn teimlo bod yn rhaid i chi ddychwelyd yn fuan er mwyn ennill yn ôl y colledion ?
-
Oes gennych chi, ar ôl ennill, awydd mawr i ddychwelyd ac ennill mwy ?
-
Ydi pobol eraill (yn enwedig pobol sy’ ddim yn gamblo) yn dweud bod eich gamblo allan o reolaeth ?
-
Ydech chi’n eich cael eich hun wedi gwerthu eiddo a/neu’n menthyg arian I ariannu’ch gamblo ?
-
Ydech chi’n gweld bod gamblo’n effeithio ar eich bywyd adref a/neu’ch bywyd gwaith ?
- Ydech chi’n parhau I gamblo er bod canlyniadau’r gamblo diwethaf heb eu datrys ee dyledion, trafferthion teuluol … ?
GALWCH HEDDIW AM SGWRS GYFRINACHOL AC ASESIAD PROFFESIYNOL OS TEIMLWCH CHI BOD GENNYCH BROBLEM GYDA GAMBLO
NEU, EFALLAI Y BYDDAI’N WELL GENNYCH FFONIO GAMBLWYR ANHYSBYS AR
(galwadau cost lleol)
|