DYMUNA CYNGOR CYMRU BOPETH DA I CHI YM 2010!!!
GAN OFYN AM EICH CEFNOGAETH WRTH INNI SEFYDLU YR YSTAFELL FYW CAERDYDD - CANOLFAN DRINIAETH FYDD YN CYNNIG GOFAL DYDDIOL, DWYIEITHOG I RAI SY'N CAEL ANHAWSTER GYDAG ALCOHOL, CYFFURIAU (AR BRESGRIPSIWN NEU'N ANGHYFREITHLON), NEU UNRHYW DDIBYNIAETH ARALL BYDD Y GANOLFAN NEWYDD YN AGOR YN EBRILL 2011.
Ymunwch a ni i roi y math o roi nad oes pris arno: y rhoi o'r hunan i rywun...
Newyddion diweddara
19 Chwefror 2009
Pre-order your copy of No Room To Live by Wynford Ellis Owen
 |
No Room to Live offers a positive way out from the hell, told through the personal experiences and thoughts of a high profile former addict, Wynford Ellis Owen, who is now the Chief Executive of the Welsh Council on Alcohol and Other Drugs.
This is a personal reflection, and one that will appeal to anybody who wishes to escape from addiction but feels hopelessly trapped. The book is written with warmth and humour by a man who had it all, lost it all, and then, after much soul searching, successfully found lasting freedom from his own demons. If he did it, so can you...
Pre-order your copy now... |
15 Chwefror 2010

Cymrodoriaeth Winston Churchill yn cefnogi Prosiect Adferiad Alcohol Caerdydd
Mae Wynford Ellis Owen, Prif Weithredwr yr elusen Cyngor Cymru ar Alcohol a Chyffuriau Eraill yng Nghaerdydd, wedi cael ei ddewis i dderbyn Cymrodoriaeth Ymddiriedolaeth Goffa Winston Churchill i roi’r cyfle iddo ymweld â nifer o ganolfannau adferiad cymunedol newydd yn yr Unol Daleithiau. Mae’r canolfannau yn sefyll allan oherwydd eu bod wedi profi llwyddiant hirdymor yn adfer pobl sy’n ddifrifol gaeth i alcohol a phroblemau cyffuriau eraill. mwy
29 January 2010
Gwnewch wahaniaeth!
Lansio E-ddeiseb yn cysylltu ariannu’r Urdd â gwahardd alcohol
 |
Yn dilyn penderfyniad Urdd Gobaith Cymru i ganiatáu gwerthu alcohol ar faes yr Eisteddfod am y tro cyntaf yn Llanerchaeron, Ceredigion ym mis Mai 2010, mae e-ddeiseb wedi cael ei lansio yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i ddarparu cyllid i Eisteddfod yr Urdd yn y dyfodol ar yr amod na werthir alcohol ar faes yr Eisteddfod.
Ar anogaeth Cyngor Cymru ar Alcohol a Chyffuriau Eraill, mae’r e-ddeiseb yn gyfle i unrhyw un sydd yn poeni am y penderfyniad i gofrestru eu pryderon gyda’r Cynulliad. Gellir arwyddo’r ddeiseb yma.
Dywedodd Wynford Ellis Owen, Prif Weithredwr Cyngor Cymru ar Alcohol a Chyffuriau Eraill, “Rydym yn gwrthwynebu penderfyniad yr Urdd i ganiatáu gwerthu alcohol ar faes Eisteddfod yr Urdd. Mae’r gwrthwynebiad yn seiliedig ar y ffaith fod hon yn ?yl ar gyfer plant a phobl ifanc ac felly mae oedran y rhan fwyaf o’r cystadleuwyr yn is na’r oed cyfreithiol i yfed alcohol. Dengys tystiolaeth fod plant a phobl ifanc yn fwy tebygol o ddod yn yfwyr ac yn yfwyr trwm po fwyaf mae cymdeithas yn normaleiddio'r defnydd o alcohol – sef yr union beth mae’r Urdd yn ei wneud trwy gyflwyno alcohol i faes yr Eisteddfod. Fyddai’r Urdd yn hyrwyddo gwerthu tobacco ar faes yr Eisteddfod?
“Gobeithiwn gyda’r e-ddeiseb hon berswadio Llywodraeth y Cynulliad i ailystyried ariannu’r digwyddiad hyd nes bydd yr Urdd yn gwrthdroi ei benderfyniad i werthu alcohol yn yr Eisteddfod. Mae’n ffaith frawychus bod plant Cymru yn yr oed 11-15 yn defnyddio mwy o alcohol na phlant o’r un oedran yn yr un wlad arall yn Ewrop. Mae hyn yn amharu ar eu hiechyd, eu rhoi nhw mewn peryglon o bob math ac yn difrodi eu gobeithion am y dyfodol. Mae hyn yn hollol groes i amcanion a bwriadau clodwiw’r Urdd.
“Dylai’r Urdd, fel mudiad sy’n derbyn arian cyhoeddus, weithredu i gadarnhau polisïau’r Cynulliad ar iechyd a ffitrwydd nid gweithredu yn eu herbyn. Galwn ar y Cynulliad i wneud safiad ar y mater hwn gan fod penderfyniad yr Urdd yn tanseilio strategaethau iechyd y Cynulliad drwy gadarnhau arferion, megis yfed alcohol, sy’n groes i’r nod o hyrwyddo iechyd a lles. Beth yw cyfiawnhad yr Urdd dros danseilio polisi cyhoeddus?
“Os ydi’r Urdd yn gwrthod newid meddwl ar y mater hwn, yna efallai y bydd rhoi pwysau ar y Cynulliad i ystyried peidio cyllido’r mudiad, yn cael gwell effaith ar ei arweinwyr a’r rhai sy’n gyfrifol am y penderfyniad hwn. ‘Roedd yr Urdd, a dylai fod, yn fudiad cyfrifol sy’n rhoi lles plant a phobl ifanc o flaen popeth arall. Dyw’r ethos hwn yn amlwg ddim yn bodoli bellach wrth galon y mudiad ac mae’n rhaid i’r penderfyniad gael ei wrthdroi.”
Disgrifiodd Wynford Ellis Owen yr E-ddeiseb fel “Ymdrech munud-olaf i achub yr Urdd rhag ei hunan”. |
10 Ionawr 2009
Ail encil : Un dydd ar y tro
 |
Bydd ail encil y Cyngor, yng Ngholeg Trefeca, Aberhonddu, yn benwythnos ar gyfer 30 person gyda'r pwyslais ar fyw "un dydd ar y tro". Mae'n gyfle i ddianc o'r busnes o fyw ac i roi amser i'ch hunan ac i'ch bywyd chi.
Am fwy o wybodaeth am yr encil neu am enciliadau yn y dyfodol cysylltwch â'r Cyngor ar
gwybodaeth@cyngorcymru.org.uk
Lawrlwythwch rhaglen yr encil |
04 Rhagfyr 2009
Ruth Andrews objects to Dr David Best’s lecture.
Ruth Andrews, a Psychoanalytical Psychotherapist from Birmingham, attended the Welsh Council on Alcohol and Other Drugs’ Inaugural Annual Lecture at the Welsh Assembly in Cardiff on 16th June, 2009. The Lecture, delivered by Dr David Best from the University of the West of Scotland on ‘Evidence of hope – what do we know about sustained recovery from alcohol and drug addiction?’, caused controversy.
In a letter to David Best, Ruth said:
‘On 16th June I attended the lecture you delivered in Cardiff. You presented data from research conducted in Birmingham and made some powerful comments about the staff working in the drug services. I would like to suggest that your comments regarding all staff and service users were based on omission of fact not on substantive data. I have therefore collated data and compiled a document illustrating the work that has been developed over a number of years by the Tier 4 service. Dates, data and comments by service users are included in order to verify the text.
Ruth goes on ‘Your arguments regarding the use of Methadone script is applicable to Tier 3 services and this should have been made clear. The one thing that is very evident with service users we work with, prior to and post residential rehabilitation, is the hope they have and their appreciation of being able to engage in a difficult but challenging life of real growth’.
At the time, Wynford Ellis Owen, chief executive of the Welsh Council, said that David’s lecture was both thought-provoking and informative. He wrote “I was left thinking, at last someone is talking sense here and he’s backed it up with solid evidence – yes, treatment is not good enough and treatment itself is not enough – it is not sufficient in its current form to support recovery. David, however, recognised that recovery does happen but that it happens in community settings where indigenous resources provide the basis for the recovery journey.”
You can access Ruth Andrew’s paper in response to David’s lecture by clicking here
The lecture, which was hosted by Gareth Jones OBE, AM, was recorded and can be viewed by clicking here.
The Welsh Council’s next Annual Lecture will be held at the Welsh Assembly building in Cardiff Bay on 23rd June, 2010. More information can be accessed on our website from January, 2010 onwards.
20 Hydref 2009
Rhoi’r neges ar-lein a gosod sylfeini Yr Ystafell Fyw
Cynhelir y digwyddiad codi arian cyntaf er budd prosiect diweddaraf Cyngor Cymru ar Alcohol a Chyffuriau Eraill yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd am 7 o’r gloch ar nos Sul 25 Hydref. Bydd yr arian a godir o sioe gerdd Cwmni Theatr Ieuenctid Maldwyn yn mynd at sefydlu Ystafell Fyw Caerdydd, canolfan driniaeth dyddiol, dwyieithog am ddim fydd yn torri cylch dibyniaeth. Mewn amser, fe fydd y gwasanaeth yn cael ei ymestyn i bob prif dref ar draws Cymru. Darllenwch mwy.
30 Medi 2009
Cam Nesaf yn y Frwydr i Gadw'r Urdd yn ddi-alcohol
Fe fydd papur yn nodi’r rhesymau pam na ddylai’r Urdd gyflwyno alcohol yn ei Eisteddfodau yn y dyfodol yn cael ei gyflwyno i Bwyllgor Rheoli Eisteddfod yr Urdd dydd Mercher 30 Medi gan Gyngor Cymru ar Alcohol a Chyffuriau Eraill. Cyflwynir y papur gyda’r gobaith y bydd yr Urdd yn newid ei feddwl ar y polisi arfaethedig o gyflwyno alcohol yn Eisteddfod yr Urdd Ceredigion 2010. Ategwyd yr alwad gan brif enwadau Cristnogol Cymru, sy’n cynrychioli dros 75,000 o aelodau a phlant; Archesgob Cymru, y Parchedicaf Dr Barry Morgan, Esgob Edwin Regan, Esgob Wrecsam, aelodau o Gyngor Aml-ffydd Cymru, Y Barnwr Michael Farmer, y Gwir Anrh. Dafydd Wigley ac aelodau'r Urdd eu hunain.
Y cynnig hwn, sy’n cynnwys ffeithiau a’r dystiolaeth wyddonol ddiweddaraf am y camddefnydd o alcohol ym Mhrydain heddiw, yw’r cam nesaf yn y frwydr yn dilyn y condemniad o fwriad yr Urdd i ganiatáu gwerthu alcohol yn Eisteddfod yr Urdd gan Gyngor Cymru ar Alcohol a Chyffuriau Eraill, pan gyhoeddwyd y newyddion yn ystod Eisteddfod Caerdydd ym mis Mehefin.
Dywedodd Wynford Ellis Owen, Prif Weithredwr Cyngor Cymru ar Alcohol a Chyffuriau Eraill, “Gyda’r papur hwn, rwy’n gobeithio y bydd y Pwyllgor Rheoli yn ddigon call a dewr, o wrando ar ein dadleuon grymus a’r dystiolaeth wyddonol ddiweddaraf, i newid eu meddyliau ar y polisi. Rwy’n hyderus y byddwn ni’n llwyddiannus ac y gallwn adfer hygrededd yr Urdd fel mudiad cyfrifol sy’n rhoi budd plant a phobl ifanc yn gyntaf.
“Mae’r frwydr hon yn mynd gam ymhellach na’r ddadl arferol am gamddefnyddio alcohol yn ein Cymdeithas. Bwriad y frwydr hon yw amddiffyn iechyd corfforol a meddyliol ein plant a phobl ifanc. Ar adeg pan fod 12 miliwn o bobl Prydain yn gor-yfed - a’r broblem yn waeth yng Nghymru, gyda phobl ifanc rhwng 11 a 15 mlwydd oed yn defnyddio mwy o alcohol na phobl ifanc o’r un oedran mewn unrhyw wlad arall yn Ewrop - mae’r penderfyniad yn anghyfrifol ac yn hollol groes i amcanion a bwriadau clodwiw’r Urdd.” Darllenwch mwy.
Cliciwch yma i lawrlwytho'r Llythyr Agored at Bwyllgor Rheoli Urdd Gobaith Cymru. |